Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn ymroddedig i wneud ei gwefannau yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cyngorynnicartref.gwasanaeth.llyw.cymru.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
  • chwyddo i hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Ebrill 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 4 Ebrill 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 4 Ebrill 2024. Cafodd y prawf ei gynnal gan Spindogs.

Fe wnaethon ni brofi’r brif dudalen ar y ficro-wefan yn cyngorynnicartref.gwasanaeth.llyw.cymru.

Cafodd y datganiad ei adolygu ddiwethaf ar 4 Ebrill 2024.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n credu nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, neu os oes angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:

E-bostiwch: advicewales@est.org.uk

Ffoniwch: 0808 808 2244

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 3 diwrnod.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd). Os na fyddwch chi’n fodlon gyda sut rydyn ni wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).